Y Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Cefndir
Ers mis Ebrill 2003 mae dyletswydd statudol wedi bod ar Gyngor Sir Caerdydd a Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd i greu a gweithredu Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ar gyfer Caerdydd.
Mae Wynebu'r Her, Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles gyntaf Caerdydd, wedi ei seilio ar ddull partneriaeth o wella iechyd a lles ac yn gwneud lleihau anghydraddoldebau iechyd sy'n bodoli ar draws y ddinas yn gydflaenoriaeth wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol ac effeithlon. Mae'r Strategaeth hon yn nodi gweithredu ar y cyd er mwyn gwella iechyd, a fydd, yn ei dro, yn newid darparuār gwasanaeth yn sylfaenol ar gyfer trigolion y Ddinas.
Nododd y Strategaeth weledigaeth ar y cyd er mwyn gwella iechyd a gofal cymdeithasol yn y ddinas, mewn ymateb uniongyrchol i anghenion lleol ac fe'i datblygwyd ar y cyd â phartneriaid a'r gymuned gyfan. Mae'r Strategaeth hon yn nodi gweithredu ar y cyd er mwyn gwella iechyd, a fydd, yn ei dro, yn newid darparu gwasanaeth yn sylfaenol ar gyfer trigolion y Ddinas.
Yng Nghaerdydd, mae'r Gynghrair Iechyd wedi cael y cyfrifoldeb o arolygu datblygiad, gweithredu a monitro'r strategaeth a'r cynlluniau cysylltiedig ar ran y partneriaid statudol.
Mae Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles nesaf Caerdydd - Gweithio i Gael Dinas Iach wedi cael ei datblygu ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Ebrill 2008. Wrth ddatblygu'r Strategaeth, dilynodd y Gynghrair ganllawiau Llywodraeth y Cynulliad. Datblygwyd y strategaeth gyda mewnbwn gan y Grŵp Comisiynu Strategol a'r Grwpiau Cynllunio Ymgynghorol a bu 12 wythnos o gyfnod ymgynghori a datblygwyd dogfen ymgynghorol.
